Awarded contract

Published

Tendr ar gyfer darparu Gwasanaeth Cyngor Pensiwn

2 suppliers have saved this notice.

Looks like a fit? Save this tender and qualify it in Stotles

Buyer

S4C

Current supplier

Burley Fox Limited

Description

Mae S4C yn edrych i apwyntio darparwr gwasanaeth pensiwn yn dechrau 5 Ebrill 2024 i ddarparu’r gwasanaethau a ddisgrifir isod ar draws y tri lleoliad (y “Gwasanaethau”):2.2.1. darparu’r rhyngwyneb rhwng S4C/ei gweithwyr a’r cynllun grŵp a’i darparwr o bryd i’w gilydd;2.2.2. delio gyda gweinyddiaeth cynllun grŵp, er enghraifft cofrestru aelodau newydd fel sydd angen gan S4C a darparu iddyn nhw waith papur y cynllun a phrosesi newidiadau i fanylion personol neu gyfarwyddiadau aelod;2.2.3. cynghori gweithwyr newydd S4C ar eu opsiynau pensiwn a phrosesi unrhyw drosglwyddiadau o’u pensiynau;2.2.4. darparu cyngor ar fuddsoddiadau i aelodau ar eu dewis o gronfeydd o fewn y cynllun grŵp a phrosesi unrhyw newidiadau;2.2.5. darparu adolygiadau unigol fel sydd angen, er enghraifft adolygiadau cronfeydd, adroddiadau opsiynau ymddeoliad ac adroddiadau lwfans oes;2.2.6. cynghori a chynorthwyo aelodau ar eu opsiynau pensiwn pan yn gadael S4C a phrosesi eu opsiynau lle yn berthnasol;2.2.7. cynghori a chynorthwyo aelodau gyda’u ymddeoliad o S4C, gan gynnwys derbyn a thalu’r budd-daliadau;2.2.8. darparu diweddariadau rheoleiddiol pensiwn cyffredinol i weithwyr S4C ar faterion a all effeithio nhw;2.2.9. hysbysu S4C o unrhyw newidiadau rheoleiddiol pensiwn a all effeithio ar S4C, cynghori ar y goblygiadau a chynorthwyo gyda gweithredu unrhyw newidiadau sydd eu hangen;2.2.10. sicrhau bod y gwaith papur a ddarparwyd i weithwyr S4C yn gyfredol ac yn cydymffurfio â darpariaethau treth a deddfwriaeth;2.2.11. cynorthwyo aelodau â chwestiynau cyffredinol ynglŷn a’u pensiwn a’u cynorthwyo i ddatrys unrhyw broblemau cysylltiedig;2.2.12. cynorthwyo S4C i gydymffurfio â’u gofynion cofrestriadau awtomatig; ac2.2.13. o bryd i’w gilydd, adolygu a meincnodi darparwr y cynllun grŵp, rhoi awgrymiadau i S4C, a chynorthwyo â gweithredu unrhyw newidiadau.Mae unrhyw gyfeiriad at ‘gyngor’ neu ‘gynghori’ yn y Gwasanaethau uchod yn cyfeirio at wneud awgrymiadau penodol, ffurfiol i aelod a fyddai gyfystyr â chyngor rheoledig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.Bydd y gwasanaethau yn cynnwys ymweliadau safle i bob swyddfa S4C o bryd i’w gilydd, gan gynnwys ei swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Chaernarfon, cynnal cyfarfodydd unigol gydag aelodau S4C, ac hefyd paratoi cyflwyniadau i weithwyr S4C pan yn briodol. Bydd y gwaith papur yn cynnwys adroddiadau unigol ac hefyd pecynnau safonol ar gyfer y cynllun. Bydd y Gwasanaethau hefyd yn cynnwys mynychu cyfarfodydd gyda staff S4C sydd yn gyfrifol am faterion pensiwn S4C.Ni fydd disgwyl i’r darparwr llwyddiannus gynghori ar y Cynllun Budd Diffiniedig, ond fe all ddealltwriaeth o’r cynllun fod yn ofynnol i allu darparu cyngor cyfannol i aelodau o’r cynllun. I osgoi amheuaeth, ni fydd rhaid i’r darparwr llwyddiannus gynghori ar drosglwyddiadau o’r Cynllun Budd Diffiniedig.Bydd disgwyl i’r darparwr llwyddiannus gynghori y rhai a fydd yn ymddeol neu yn gadael S4C ar eu opsiynau pensiwn ac ar hawlio eu budd-daliadau, ond fel arall ni fydd disgwyl i chi gynghori unrhyw aelod sydd ddim bellach yn cyflogedig gan S4C.

Unlock decision maker contacts.

Never miss a tender again

Get alerts, AI summaries and tools to qualify faster

Explore similar pre-tenders, open or awarded contracts

Browse open tenders, recent contract awards and upcoming contract expiries that match similar CPV codes.

Awarded

AVC Services

Robert Gordon University

42,000 GBP

Published 8 days ago

Gloucestershire County Council

6,250,000 GBP

Published 15 days ago

South Yorkshire Pensions Authority

55,000 GBP

Published 18 days ago

London Borough of Sutton

30,000 GBP

Published 24 days ago

The Police and Crime Commissioner for West Midlands

3,788,800 GBP

Published a month ago

South Tyneside Metropolitan Borough Council

3,347,110 GBP

Published a month ago

Northumbria Police

333,000 GBP

Published 2 months ago

NHS Business Services Authority

351,000 GBP

Published 2 months ago

Cheshire West and Chester Council

41,000 GBP

Published 2 months ago

Sign up to the Stotles Tender Tracker for free

Find even more contracts with advanced search capability and AI powered relevance scoring.