Awarded contract

Published

Award of PROVISION OF LONG-TERM LEASE HIRE EQUIPMENT TO ORCHARD SITES (2)

8 suppliers have saved this notice.

Looks like a fit? Save this tender and qualify it in Stotles

Current supplier

Sarah Collick

Description

CYFLWYNIAD A CHEFNDIR Ffrwd waith 3 yw Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol, un o chwe ffrwd gwaith y prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol. Mae ffrwd waith Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol yn anelu at: o Ysgogi datblygiad sylweddol ym maes cynhyrchu, storio, a phrosesu ffrwythau, a chynhyrchion ffrwythau sy'n eiddo i'r gymuned, ar gyfer Gymru. o Nodi ardaloedd sy'n brin o goed a mannau gwyrdd o ansawdd da yn dilyn yr egwyddor 'Coeden Iawn / Lle Iawn' a 'Gwneud Dim Niwed'. o Creu mynediad agored i safleoedd, gydag ymwelwyr yn cael eu haddysgu ar fanteision Perllannau. o Lansio 'Rhwydwaith Perllannau Cymunedol' newydd, gan wreiddio rhwydweithio cydradd drwy weithio gyda rhwydweithiau eraill sy'n bodoli. o Gwella sgiliau perllannau (plannu, cynnal a chadw a phrosesu) drwy hyfforddiant a sesiynau gweithdy. o Cefnogi datblygiad cynnyrch Cymreig newydd sy'n dod o ffrwythau (lledrau, byrbrydau sych, cordialau). o Treialu, monitro a gwerthuso buddion economaidd perllannau cymunedol. o Gweithio gyda rhanddeiliaid yn y gadwyn gyflenwi ffrwythau yng Nghymru. o Gwneud gwaith mapio i sicrhau lledaeniad daearyddol da ar draws Cymru. o Plannu 1000 o goed ffrwythau a chnau bwytadwy ar draws o leiaf 10 o safleoedd perllan cymunedol. o Sefydlu nifer fechan o ganolfannau prosesu a storio ar lefel gymunedol i ddatblygu a phrofi 2 x gynnyrch Cymreig yn defnyddio ffrwythau. o Cynhyrchu 3 x astudiaeth achos ac 1 x pecyn cymorth. o Ymgysylltu â 3 x daliad fferm ffurfiol a 7 tirfeddiannwr arall. o Cefnogi 2 x swydd FTE gan y safleoedd sy'n gweithredu'r cyfleusterau storio a phrosesu. AMLINELLIAD O'R BRIFF: Gwaith i'w gyflawni: Darparu cyfarpar wedi'i logi hirdymor i Safleoedd Perllannau Yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: - Drafodaeth gyda 6 x o safleoedd penodedig ynghylch eu hanghenion o ran cyfarpar - Darparu cyfarpar i safleoedd penodedig: suddwyr, sgratyddion/melinau, gweisg, pasteureiddwyr, citiau poteli (yn cynnwys labelu, poteli ac ati), dadhydradyddion, citiau gwneud jam ac ati. - Darparu cytundebau llogi gyda safleoedd, i gynnwys gwaith cynnal a chadw'r cyfarpar gan y safleoedd tra'i fod yn y lleoliad. Noder: Bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar i'r llogi prydles weithio ohono. - Goruchwylio dosbarthiad, gosod, defnydd cychwynnol a chywiro diffygion yr offer a ddarparwyd wedi hynny. - Cadw'r holl gofnodion ariannol sy'n berthnasol i'r cyfarpar: o Dyddiad prynu o Disgrifiad o'r cyfarpar o Pris a dalwyd (yn cynnwys TAW net adferadwy) o Rhifau Cyfresol / Adnabod o Lleoliad y cyfarpar o Unrhyw ddyddiad gwaredu o Unrhyw werthiant rhydd o TAW DS - Ni ddylai UNRHYW gyfarpar gael ei waredu, ei drosglwyddo neu ei wastraffu cyn mis Medi 2028 heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (IoA LlC 36.) Defnyddwyr Yn y tymor byr, y cynhyrchwyr/tyfwyr yn y safleoedd penodol fydd y defnyddwyr. Yn y tymor hwy, gall y cyfarpar gael ei ddefnyddio gan wirfoddolwyr ar y safle neu yn y gymuned ehangach. Dylid cymryd hyn i ystyriaeth wrth drafod gofynion cyfarpar gyda grwpiau penodedig yn y lle cyntaf. Manylion penodol Mae'r grwpiau wedi'u lleoli'n ddaearyddol ar hyd a lled Cymru. Dylai ymweliadau ddigwydd i'r safleoedd, yn gorfforol neu'n rhithwir, i asesu'r gofod gosod addas i ddefnyddio'r cyfarpar ar ei orau.

Unlock decision maker contacts.

Never miss a tender again

Get alerts, AI summaries and tools to qualify faster

Explore similar pre-tenders, open or awarded contracts

Browse open tenders, recent contract awards and upcoming contract expiries that match similar CPV codes.

North Wales Wildlife Trust

Published 4 days ago

Sudbury Town Council

64,362 GBP

Published a month ago

North York Moors National Park Authority

150,358 GBP

Published 2 months ago

Scottish Government

33,683.26 GBP

Published 2 months ago

Forestry and Land Scotland

86,151 GBP

Published 2 months ago

Forestry and Land Scotland

76,113.12 GBP

Published 2 months ago

RSPB

199,339 GBP

Published 2 months ago

Welsh Government

Published 2 months ago

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales

Published 2 months ago

Explore top buyers for public sector contracts

Discover open tenders, contract awards and upcoming contract expiries of thousands of public sector buyers below. Gain insights into their procurement activity, historical purchasing trends and more.

Explore over 15,000 buyers

Sign up to the Stotles Tender Tracker for free

Find even more contracts with advanced search capability and AI powered relevance scoring.