Awarded contract

Published

(Ail hysbyseb) Ymchwil ar agweddau myfyrwyr israddedig tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

6 suppliers have saved this notice.

Looks like a fit? Save this tender and qualify it in Stotles

Current supplier

Ob3 Research (Old Bell3 Ltd)

Description

Dyma ail-hysbyseb ar gyfer comisiynu ymchwil ar agweddau myfyrwyr israddedig tuag at addysg cyfrwng Cymraeg. (PLEASE NOTE: The full specification is only available in Welsh as we would require a full and complete service through the medium of Welsh for this project) Ychwanegwyd y pwyntiau bwled isod at yr hysbyseb er cyd-destun: • Mae'r Coleg yn hapus i drafod yr amserlen a'r fethodoleg fwyaf addas ar gyfer cyflawni'r gwaith gyda chwmnïau sy'n cyflwyno cais. • Rydym yn hapus i ystyried amserlen estynedig ar gyfer cyflawni'r gwaith hyd at Fehefin 2023. • Bydd y Coleg yn barod i hwyluso'r cyswllt gyda myfyrwyr tu hwnt i'r ffin. • Mae'r Coleg yn ymwybodol o waith sydd eisoes wedi digwydd gyda myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau yng Nghymru. Mae nifer o sefydliadau addysg uwch wedi neu wrthi yn casglu gwybodaeth gan y garfan hon o fyfyrwyr a bydd y Coleg yn hapus i gyfeirio'r cwmni llwyddiannus at y ffynonellau hyn o wybodaeth. Man cychwyn y gwaith hwn fydd edrych ar yr ymchwil sydd eisoes yn bodoli cyn penderfynu ar unrhyw waith ychwanegol sydd ei angen er mwyn cyflawni amcanion y briff yn llawn. • Rydym yn annog cwmnïau sydd a diddordeb i gyflwyno ceisiadau cryno yn y lle cyntaf. Bydd cyfle i ymhelaethu ar y braslun mewn trafodaethau dilynol. Dyma'r disgrifiad gwreiddiol: Mae’r contract hwn ar gyfer comisiynu ymchwil i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ganfod darlun manwl o agweddau myfyrwyr israddedig sy’n siarad Cymraeg ac yn astudio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (ond ddim yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg), yn ogystal ag agweddau a chanfyddiadau myfyrwyr sy’n astudio tu allan i Gymru tuag at addysg cyfrwng Cymraeg. Gwahoddir ceisiadau gan gwmnïau addas i lunio adroddiad sy’n ystyried agweddau a chanfyddiadau y myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru tuag at: • Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol; • Effeithiolrwydd Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg wrth annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg; • Y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg e.e. rhestrau terminoleg a darpariaeth sgiliau iaith; • Yr hyn fyddai angen ei sicrhau er mwyn annog mwy o fyfyrwyr i ddilyn darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog; • Y math o negeseuon fyddai’n apelio at y myfyrwyr hyn. Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau tu allan i Gymru, hoffai’r Coleg ddeall: • Beth sy’n cymell myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau tu hwnt i’r ffin? • Beth yw eu canfyddiadau o sefydliadau addysg uwch Cymru? • Pa fath o ddylanwad caiff trefniadau cyllido myfyrwyr ar ddewisiadau myfyrwyr? • Pa fath o gynlluniau fyddai’n annog y myfyrwyr hyn i ddychwelyd i Gymru i astudio a/neu weithio ar ôl graddio? • Pa fath o negeseuon fyddai’n apelio at y myfyrwyr hyn ar gyfer eu denu yn ôl i astudio neu weithio yng Nghymru ar ôl graddio? Rhagwelir y bydd angen cynnal gwaith ymchwil ansoddol gyda myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, ar ffurf grwpiau ffocws ar-lein a/neu gyfweliadau ar-lein neu dros y ffôn yn ôl pob tebyg. Bydd angen i’r ymchwil adlewyrchu profiadau myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg ac yn dod o gefndiroedd gwahanol gan gynnwys myfyrwyr sy’n astudio amrediad o bynciau mewn nifer o sefydliadau gwahanol, myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig. Ceir rhagor o fanylion yn y ddogfen gwybodaeth ychwanegol.

Connect with key decision makers

Go beyond procurement contacts. Stotles gives you the decision makers that choose who gets the tender.

Chief Executive

Chief Officer

Redacted

redacted@redacted.co.uk

+44 01234 567 890

Unlock decision maker contacts.

Never miss a tender again

Get alerts, AI summaries and tools to qualify faster

Explore similar pre-tenders, open or awarded contracts

Browse open tenders, recent contract awards and upcoming contract expiries that match similar CPV codes.

NATIONAL WEALTH FUND LIMITED

42,495 GBP

Published a day ago

Department for Education

199,869.22 GBP

Published 4 days ago

Department for Education

800,000 GBP

Published 4 days ago

London Ambulance Service NHS Trust

42,390 GBP

Published 4 days ago

NHS England

176,764 GBP

Published 4 days ago

Department for Energy Security & Net Zero

494,774 GBP

Published 4 days ago

Crown Commercial Service

14,000 GBP

Published 4 days ago

Sign up to the Stotles Tender Tracker for free

Find even more contracts with advanced search capability and AI powered relevance scoring.